Rhif y ddeiseb: P-06-1253

Teitl y ddeiseb: Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Yng Nghymru, mae gennym un trac rasio milgwn annibynnol sy’n cynnal rasys unwaith yr wythnos. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a’u partneriaid achub wedi derbyn bron 200 o filgwn dros ben o'r trac hwn, ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau. Mae cynlluniau ar waith i’r trac ymuno â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, a fyddai’n arwain at gynnal rasys bedair gwaith yr wythnos a chynnydd sylweddol yn nifer y cŵn dros ben ac anafiadau.  Mae rasio milgwn yn greulon yn ei hanfod, a phrin yw’r warchodaeth gyfreithiol sydd gan filgwn.   Mae eisoes wedi'i wahardd ym 41 o daleithiau UDA.

Rhagor o fanylion

Mae grwpiau ymgyrchu wedi casglu data a thystiolaeth yn ymwneud â llesiant gwael yn y maes rasio milgwn yn y DU.

Cynghrair yn erbyn Rasio Milgwn: https://www.aagr.org.uk/category/why-is-greyhound-racing-cruel/

Cynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon: https://www.league.org.uk/greyhound-racing

Bu erthyglau yn y wasg ac ymchwiliadau cudd hefyd i rasio milgwn:

RTE Investigates: Greyhounds Running For Their Lives
https://www.youtube.com/watch?v=ZYTb2qBjlMM

Panorama Investigates: Doping and rigging bets
https://www.youtube.com/watch?v=I0p0bHSkIAk

https://www.theguardian.com/sport/2021/jun/26/activists-renew-calls-to-end-greyhound-racing-as-400-die-despite-lockdowns

https://www.mirror.co.uk/news/uk-news/greyhounds-being-shipped-pakistan-illegal-23765480

https://www.thesun.co.uk/news/13086085/british-greyhounds-racing-dogs-mass-graves-bolt/

Bydd deiseb ddiweddar yn cael ei thrafod yn Senedd y DU ar ôl sicrhau 104,882 o lofnodion.
https://petition.parliament.uk/petitions/554073

 

 

 


1.        Cefndir

Ar hyn o bryd mae un trac rasio milgwn yn gweithredu yng Nghymru - y Valley Greyhound Stadium yn Ystrad Mynach, Sir Caerffili. Cynhelir rasys yno unwaith yr wythnos.

Yn y DU mae tri thrac rasio annibynnol a gaiff eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol (gan gynnwys y Valley Stadium) a 19 trac rasio wedi’u trwyddeddu gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB). Mae rheolau ychwanegol ar gyfer traciau GBGB, sydd wedi’u llunio i ddiogelu lles yr anifeiliaid (megis presenoldeb milfeddygon). Nid oes gan GBGB ddim traciau yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar mae bargen wedi'i chwblhau ar gyfer gwerthu’r Valley Stadium.  Bwriad y prynwr yw ei chynnal fel trac rasio trwyddedig GBGB. Mae'r prynwr yn disgwyl y bydd angen datblygu’r stadiwm ymhellach ac y caiff ei defnyddio fel trac rasio GBGB erbyn 2023, gan gynyddu nifer y rasys i bedair gwaith yr wythnos.

Er bod GBGB yn cyhoeddi ystadegau anafiadau ac ymddeoliad o ran ei draciau, nid oes gofyniad i draciau annibynnol gyhoeddi adroddiad. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ddata ar wefan y Valley Stadium. Mae hyn yn nodi bod 24 o filgwn, o'r 4,652 o rediadau gan filgwn mewn rasys, wedi dioddef anaf difrifol (fel arfer, torri esgyrn) yn ystod ras. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd anafiadau difrifol o 0.5 y cant.

Mae ymchwil wedi'i gomisiynu gan GBGB yn dangos bod incwm 'diwydiant craidd' rasio milgwn ym Mhrydain Fawr yn £119 miliwn yn 2012. Nid yw’r data ar gael ar gyfer Cymru.

1.1.            Rheoleiddio rasio milgwn ar hyn o bryd

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006, (Deddf 2006) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â lles anifeiliaid. Mae Deddf 2006 yn caniatáu cymryd camau pan fo tystiolaeth ar gael yn ymwneud â chreulondeb i anifail neu fethiant i ddarparu ar gyfer anghenion lles anifail. Gallai'r darpariaethau hyn fod yn gymwys pan fo milgwn ar draciau neu'n cael eu cadw mewn cytiau hyfforddwyr. 

Mae adran 12 o Ddeddf 2006 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i hyrwyddo lles anifeiliaid. Mae adran 13 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno cynlluniau trwyddedu i ddiogelu lles anifeiliaid.

Yn Lloegr, gwnaed rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13 o Ddeddf 2006; The Welfare of Racing Greyhounds Regulations 2010. Nod y rheoliadau hyn yw diogelu milgwn sy’n rasio yn Lloegr a darparu bod yn rhaid i bob gweithredwr traciau rasio milgwn gael trwydded.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw amddiffyniadau cyfreithiol penodol ar gyfer rasio milgwn yng Nghymru.

Yn 2020 roedd deiseb i Senedd y DU i wahardd rasio milgwn yn Lloegr. Ymatebodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (Defra) drwy ddweud ei bod yn cefnogi lles uchel ar gyfer rasio milgwn ond ei barn oedd bod gwaharddiad yn ddiangen.

1.2.          Barn rhanddeiliaid

Mewn ymateb i’r ddeiseb hon yn y Senedd, dywedodd llefarydd ar ran GBGB:

The petition claims that our sport is inherently cruel; this statement is utterly false and insulting to the thousands of hardworking individuals within our sport.

As the regulator of licensed greyhound racing, the welfare, safety and wellbeing of our canine athletes is our highest priority. As an unlicensed track, the Valley Stadium and the greyhounds which race there currently sit outside of our regulatory remit. Should the Valley wish to operate as a licensed track, we would welcome being able to further safeguard the welfare of the greyhounds which race there.

Cyhoeddodd Cyngor Caerffili uwchgynllun ar gyfer Ystrad Mynach yn 2019. O ran y Valley Stadium, mae’n datgan:

It is ideally located to capitalise on the many visitors to the area and there is opportunity to expand and increase the potential of the site as a tourism destination. Furthermore, there is opportunity for spin-off between this site and potential hotel and restaurant development on adjacent land.

Mae llawer o grwpiau lles anifeiliaid wedi mynegi pryder ynghylch lles milgwn sy’n rasio ac maent yn galw am reoliadau pellach neu waharddiad llwyr.

Er enghraifft, nid yw’r Dogs Trust yn credu bod rheoliadau Lloegr yn mynd yn ddigon pell gan mai dim ond yr hyn sy'n digwydd ar y trac y maent yn ei gwmpasu. Mae’n galw am reoleiddio pob cam o fywydau'r milgwn sy’n rasio yn ogystal ag ardoll ar y bwcis i ariannu lles milgwn. Comisiynwyd adolygiad gan y Dogs Trust yn ddiweddar, i les milgwn sy’n rasio yn y DU, ac mae disgwyl iddo adrodd yn ystod hanner cyntaf 2022.

Mae’r Gynghrair yn Erbyn Rasio Milgwn yn galw am waharddiad graddol ar rasio milgwn ym Mhrydain, er mwyn dod â marwolaethau diangen a dioddefaint milgwn, oherwydd rasio, i ben".

Mae'r lincs a ddarperir gyda thestun y ddeiseb yn gyfle i ddarllen ymhellach am bryderon yn ymwneud â lles anifeiliaid.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru God Ymarfer Gorau Gwirfoddol er Lles Milgwn Rasio. Dywedodd RSPCA Cymru: fod y Cod yn gam mawr ymlaen i'r Sector, ond mae angen mwy o waith i sicrhau cydymffurfiaeth.

Yn ystod hynt y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yn 2019, codwyd y mater o briodoldeb arddangosfeydd eraill yn ymwneud ag anifeiliaid yng nghyd-destun y gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol.

Rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2019 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar reoliadau a chanllawiau drafft i reoleiddio arddangosfeydd anifeiliaid. Roedd disgwyl i’r rheoliadau gael eu cyflwyno o dan Ddeddf 2006 a'u galw'n Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020 a chanllawiau. Fodd bynnag, roedd y rheoliadau arfaethedig yn cynnwys esemptiad ar gyfer rasio milgwn. Roedd crynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad yn datgan:

Cafwyd tystiolaeth sylweddol a oedd yn canolbwyntio ar bryderon am broblemau lles a diffyg hunanreoleiddio yn y maes rasio milgwn yng Nghymru. Roedd yr ymatebwyr hynny a gododd y mater hwn o'r farn y dylai rasio milgwn ddod o fewn cwmpas y Rheoliadau drafft.

[…]

O ran y cynigion i gynnwys rasio milgwn fel gweithgaredd trwyddedig, mae'r dystiolaeth a ddaeth i law wedi'i nodi.  Gan na dderbyniwyd unrhyw ymatebion gan sefydliadau a oedd yn cynrychioli'r sector rasio milgwn, byddwn yn gofyn i'r sector am ei farn cyn ystyried hyn ymhellach, gan y bydd hyn yn ein galluogi i ystyried y dadleuon amrywiol cyn dod i gasgliad ynghylch a ddylai rasio milgwn ddod o fewn cwmpas y Rheoliadau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, ni chyflwynwyd rheoliadau.

Ar 4 Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths (y Gweinidog) Gynllun Lles Anifeiliaid i Gymru (AWPW) 2021-26. Mae hyn yn cynnwys cynllun i gyflwyno gofyniad trwyddedu mewn perthynas ag arddangosfeydd anifeiliaid a sefydliadau anifeiliaid – "o bosibl gan gynnwys arddangosfeydd anifeiliaid teithiol, rasio milgwn a sefydliadau lles anifeiliaid [ychwanegwyd y pwyslais]".

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgynghoriad pellach gyda'r nod o gyflwyno gofynion newydd o bosibl o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021. Mae llythyr y Gweinidog ynghylch y ddeiseb hon yn nodi y bydd swyddogion yn ymgysylltu ag "ystod eang" o bartïon â diddordeb, gan gynnwys:

-      arweinydd Prosiect Gorfodi'r Awdurdod Lleol, Gareth Walters;

-      Awdurdod Lleol Caerffili;

-      y gweithgor ar y cyd rhwng AWNW/CAWGW [Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru / Grŵp Lles Anifeiliaid Anwes Cymru]; a

-      rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae'r mater o rasio milgwn wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Cyfarfod Llawn yn ystod y Chweched Senedd.

Wrth ateb cwestiwn ynghylch archwilio trac rasio’r Valley Stadium, dywedodd y Gweinidog:

Mae arolygiadau o’r trac rasio milgwn sydd ar ôl yng Nghymru wedi’u trefnu drwy raglen gyflawni partneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli a’i chydlynu gan safonau masnach sir Fynwy a’r gweithgor milgwn, is-grŵp o Rwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru, un o'n rhwydweithiau partneriaeth allweddol

Aeth yn ei blaen i ddweud:

Yn amlwg, pe baem yn edrych ar wahardd rasio milgwn, byddai'n rhaid inni edrych ar dystiolaeth, ac ymgynghoriad. Bydd y cyfan yn cymryd peth amser, ac yn amlwg, byddai'n rhaid bod capasiti deddfwriaethol ar gael imi allu gwneud hynny.  Ond mae'n sicr yn rhywbeth .Ac fe sonioch chi am rywbeth ar y diwedd nad wyf ond wedi'i ddysgu yn ddiweddar, sef mai dim ond wyth gwlad yn y byd sy'n dal i ganiatáu rasio milgwn, ac rydym ni'n un ohonynt.

Cynhaliodd Pwyllgor yr Edonomi, Masnach a Materion Gwledig sesiwn dystiolaeth ar les anifeiliaid ym mis Tachwedd 2021 pan drafodwyd rasio milgwn gyda sefydliadau lles anifeiliaid. Dywedodd y Dogs Trust wrth y Pwyllgor ei bod yn comisiynu adolygiad annibynnol o rasio milgwn ledled y DU i benderfynu a yw gwaharddiad yn briodol. Dywedodd RSPCA Cymru wrth y pwyllgor ei fod yn gyson yn adolygu ei safbwynt ar rasio milgwn. Nododd fod Cymru y tu ôl i Loegr o ran rheoleiddio felly croesawyd y ffaith bod rasio milgwn yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021-26.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.